Hanes
Murlun | Hen Hanes
| Y Celtiaid a'r Rhufeiniaid | Saint yr Eglwys Geltaidd
| Academi Watcyn Wynn | Y Degwm
| Pregethwyr Dylanwadol | Llofruddiaethau a Thrychinebau
| Hanes Cymdeithasol | Y Bobl Cefnog
| Diwydiant | Melinau Gwlân
| Siopau a Thafarnau | Diwrnod Mart
| Siop y Crydd | Addysg
| Addoldai’r Ardal | Diwrnod
Ffair | Cerddoriaeth a Chymdeithasu
| Helynt y Becca
Erthygl gan Rhobert
ap Steffan ynglyn a Sant Cadog yn Llydaw (Saesneg yn unig)
Mae gan Archaeoleg Cambria
ar eu gwefan llawer o dudalennau diddorol am archaeoleg a hanes
Llangadog a'r ardal. Gellir gweld y cysylltiadau i'r tudalennau
drwy glicio yma.
Casgliad o atgofion a hanesion a geir ar y wefan,
ac nid darn o waith academaidd. Parhawn i gasglu gwybodaeth am
yr ardal a’r bobl a fu’n byw yma, ac fe groesawn unrhyw
gyfraniadau neu gyfeiriadau sydd gennych.
Murlun
Ceir syniad bras o hanes yr ardal yn y murlun a grewyd gan Andrew
Evans, arlunydd lleol, gyda chymorth plant Ysgol Llangadog. Ewch
i’w weld yn Neuadd Gymdeithasol Llangadog. Noddwyd y murlun
gan Balchder Bro.
Fe geir disgrifiad da o bentref Llangadog a’r
ardal ar www.genuki.org.uk
(yn agored mewn ffenestr newydd)
Hen Hanes
Ceir gwybodaeth manwl am dystiolaeth o bobloedd mwyaf cyntefig
yr ardal gan Archaeoleg Cambria (www.cambria.org.uk
- yn agored mewn ffenestr newydd). Mae’r ardal yn frith
o dystiolaeth ein cyndadau. Y darganfyddiad mwyaf cyntefig oedd
pen bwyell o’r adeg Paleolithig (250,000CC – 10,000CC).
Yn fwy amlwg o ran tirwedd mae tystiolaeth o bump caer yn ardal
Llangadog, a’r un mwyaf nodweddiadol yw Caer Garn Goch sydd
i’w weld yn glir o’r A40. Gellir cerdded yn olion
ein cyndadau a syllu ar yr un olygfa a wnaethant hwy.
Y Celtiaid a’r
Rhufeiniaid
Ymsefydlodd y Rhufeiniaid yn yr ardal yma fel ymhobman, ac fe
welir olion ty Rhufeinig ar dir fferm Garregfoelgam ar ddarn o
dir a elwir yn Llys Brychan. Mae olion y system gwresogi dan llawr
wedi ei ddarganfod yno. Efallai mai teulu cymysg ydoedd rheolwyr
yr ardal, neu i’r Rhufeiniaid ymgartrefu mewn man a fu’n
bwysig yn amser Brychan Brycheiniog. Brenin Brycheiniog ydoedd
Brychan, a’i dir yn ymestyn draw i’r Tywi.
Edrych dros y comin a wna olion Castell Meurig
(mwnt a beili). Cafodd ei adeiladu mewn lle delfrydol i ddiogelu’r
groesfan yng Nglanrhyd,a gellir dychmygu’r castell pren
ar ben y twmpyn uchel a’r gofalwyr yn cadw llygad craff
ar yr ardal.
Cysylltiadau
Saint yr Eglwys Geltaidd
Abad, Esgob a Merthyr o’r bumed neu’r chweched ganrif
ydoedd Cadog neu Catwg, o bosibl yn un o wyron Brychan Brycheiniog.
(cyfeiria rhai cofnodion hanesyddol iddo fel mab i Gwynllyw, Brenin
Gwynllywg, a’i wraig ef oedd Gwladys, merch neu wyres Brychan
Sant, Brenin, Cyffeswr. Mae’n bosibl mai Capten ar fand
Gwyddelyg a arferai ymosod a goresgyn Caerfyrddin, Penfro a Brycheiniog
o bryd i’w gilydd ydoedd Anlac, sef tad Brychan.)
Canfodd Mynachlog Llancarfan Fawr yn Nyffryn
Morgannwg ac mae nifer o eglwysi yn y siroedd cyfagos o’r
enw Sant Cadog. Roedd yn teithio ymhellach hefyd, ac fe welir
eglwysi sy’n dwyn ei enw yng Nghernyw, Llydaw a’r
Alban.
Atgyweiriwyd yr eglwys cryn dipyn yn 1888-9,
ond mae 60% o ddeunydd yr eglwys yn parhau i fod yn hyn. Un o
eglwysi hynnaf yr Esgobaeth San Ddewi. Fe’i gelwid yn Llangadog
Fawr, gyda thair capel yn ail iddi, sef, Llanddeusant, Gwynfe
a Chapel Tudyst.
Tudist Ceidrych Lliam (Caesiencyn)
Dewi Cadog, Llain Dyrfal – Teyrnfael (sef athro Dewi Sant)
Elli – Gwernellyn
Braenan
Sefi – Hefin
Savinus – (hanner Cymro) Llansefin
Mae damcaniaeth gan Guto ap Gwynfor am nifer
eraill hefyd:
Mewn ysgrif o’r wythfed ganrif, ‘Buchedd Samson’
fe sonir am ein nawddsant Dewi yn cael ei addysgu yn Nhy’r
Dingat, Llanymddyfri.
Cyfeiria Cannon Doble at ardal Llanddeusant: sôn am y lle
fel Lle Gwyn – sef Gwynfe a Gwenllan.
Gelwir un man heibio’r comin a Fferm Devannah yn Rhydsaint,
sef yr hen ffordd yr oedd y saint yn ei gerdded. Os sylwch ar
yr heol fach fe welwch fod y cloddiau’n lletach na’r
heol: tystiolaeth y bu’r ffordd lawer mwy pwysig ar un adeg.
Caesara – Caesarn (sef heol)
Ceir mwy o saint eu henwi yn yr ardal yma nag un ardal arall yng
Nghymru.
Rhyw y Dannan – Rhyw Adamnan – Rhuadymôn (awdur
Buchedd Columba)
Yn y ddeuddegfed ganrif mae sôn am Bledru ap Cadifor. Roedd
ei dad yn berchen ar lawer o dir yn Sir Gâr. Claddwyd yn
eglwys Llangadog. Priododd ferch o Gwynfe a byw ym Methlehem.
Llannerchbledru oedd hen enw Glantywi. Cynigodd Gwyn ap Williams
mai fe oedd Bledricws Latimer, sef y Lladmerydd a fu’n siarad
ar ran y Cymry gyda’r Normaniaid. Ef oedd yn gyfrifol am
drosgwlyddo llenyddiaeth rhamantus (chivalric) Arthuraidd yr adeg.
Academi Watcyn Wynn
Sefydlwyd academi i offeiriaid ar hyd ‘Bacwai’ mewn
adeilad a ddaeth i fod yn neuadd yr eglwys ac sydd yn awr yn dy.
Pan benderfynodd Watcyn Wynn i symud y coleg i Gwynfryn yn Rhydaman
nid oedd pobl Llangadog yn bles o gwbl, yn wir roeddent yn gynddeiriog
wrth feddwl am yr incwm colledig. Cynhaliwyd cyfarfod ar Sgwâr
y pentref a llosgwyd delw o Watcyn Wynn. Ond symudwyd y coleg.
Y Degwm
Bu protestio yn erbyn y degwm: llanwyd eglwys Gwynfe gan bobl
lleol a choliers Brynaman a gerddodd yr holl ffordd dros y mynydd
cyfarfod. Serch hynny wedi trafodaeth brwd, penderfynwyd i dalu’r
degwm. (William Thomas, Gwynfe). O ardal Gwynfe a Dyffryn Ceidrych
oedd trigolion a choliers Brynaman. Yn wir, yn ystod y streic
mawr cafwyd eu cynnal a’u bwydo gan ffermwyr Gwynfe. Am
flynyddoedd roedd bws yn teithio’r Mynydd Du yn ddyddiol
gan fod digon o alw am y gwasanaeth. (Clywir cyswllt yn y dafodiaith
heddiw: -ws ac –odd yn aml yn yr un frawddeg – “Rhedws
i lawr yr heol a cwympodd e.”
Pregethwyr Dylanwadol
David Davies – Yr Utgorn Arian (ei garreg fedd yn Bethlehem).
Ef a wnaeth ‘yr hwyl’ yn ffasiynol.
Ceir bywgraffiadau eang o weinidogion yr ardal gan John Davies,
Caerdydd.
Llofruddiaethau a Thrychinebau
Ond nid saint oedd pob aelod o’r gymuned; mae hanesion yn
sôn am lofruddiaethau, gydag un llofrudd (William Williams
1768) yn llwyddo i ddianc i Ffrainc a bod yn athro yno. Llai ffodus
oedd y pregethwr Rees Thomas Rees (1817). Bu 10,000 yn gwylio’i
funudau olaf.
Yn fwy diweddar bu trychineb ar y rheilffordd wrth Glanrhyd. Yn
19XX ar ôl penwythnos o law trwm a llifogydd helaeth ar
hyd Dyffryn Tywi, dymchwelodd pont y rheilffordd wrth i’r
trên cynnar deithio drosti. Cwympodd un coets i’r
afon chwyddedig ac fe foddwyd XX cyn y gellid eu hachub.
Hanes Cymdeithasol
Ymwelodd George Borrows ag ardal Llangadog wrth iddo deithio thyd
a lled Cymru. Diddorol iawn yw ei ddisgrifiadau o’r sgyrsiau
a gafodd gyda phobl wrth iddo deithio i fyny i Gapel ‘Gwynfa’.
http://www.red4.co.uk/ebooks/wildwales/chapt98.htm
(yn agored mewn ffenestr newydd)
Y Bobl Cefnog
Fel pob ardal arall mae olion cartrefi crand y boneddigion i’w
gweld: Dan-yr-allt (teulu Lloyd), Glansevin a Mandinam (teulu
Lloyd); stadau Abermarlais, Glanyrannell a Llwyncelyn.
(Gwybodaeth yn y Llyfrgell Genedlaethol)
Diwydiant
Ceir digon o gofnodion am dystiolaeth o ffermio yma ers y Canol
Oesoedd: cyfeiriadau at felinau gwenith a ffermdai, a gwelir siapau’r
system o gaeau stribedi wrth Felindre. Roedd gan Felindre yr hawl
i gynnal ffair flynyddol ers 1383.
Mewn ardal fel hon mae’n amlwg mai ffermio
oedd y prif ddiwydiant, ac mae’n parhau felly, er bod nifer
o fusnesau eraill yn cael eu rhedeg o rai adeiladau fferm yr ardal
erbyn heddiw. Roedd amryw ffordd arall i bobl yr ardal ennill
eu cyflog: chwareli calch a mwynau eraill ar y Mynydd Du, melin
blwm ac arian ar dir Cae Sara, melinau gwlân, y tafarnau
a’r siopau er mwyn darparu llety a nwyddau i’r trigolion
ac i’r porthmyn a oedd yn gorffwyso ar eu ffordd i Gloucester
a threfi eraill canol Lloegr. Roedd sawl gofaint yn gweithio yng
Nghwrtyplas er mwyn paratoi’r gwartheg a’r hwyaid
erbyn eu taith.
Melinau Gwlân
Gall Miss Julia Jones ddwyn atgofion melys am ei thad a’r
felin wlân sydd yn parhau yn gartref iddi hi a’r teulu.
Ceir amryw engrhaifft o’r blancedi a wnaethpwyd o’r
gwlân a nyddwyd yno.
Roedd yna felin arall ar bwys pont yr hen Three Horseshoes, ond
gwahanol oedd y patrwm a lled y blancedi oddi yno.
Mae sawl melin yn yr ardal ond nid gwlân
oedd cynnyrch pob un. Er enghraifft, Melin Glansefin oedd yn malu
gwenith i’r ardal honno. Addaswyd Melin Brân i gynhyrchu
trydan.
Siopau a Thafarnau
Roedd bron pob adeilad yng nghanol y pentref
yn siop neu’n dafarn ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf.
Mae rhai cardiau post ac atgofion yr hynafwyr yn tystio hyn, ac
yn adeg y porthmyn roedd angen yr holl fusnes. Ers y 1950au roedd
sôn am ddwsin o dafarnau ar agor. Yn 1985 chwech tafarn
oedd agor eu drysau bob nos – Red Lion, Plough, Castle,
Black Lion, Carpenters a’r Telegraph. Er i un neu ddau fod
ynghau am adegau ers hynny, erbyn heddiw mae pob un yn parhau
ond am y Plough.
Diwrnod Mart
Cynhaliwyd mart i’r ffermwyr ar ddydd Mawrth hyd nes yn
gymharol ddiweddar, ac roedd dau fanc, sef, Barclays a’r
National Westminster yn agored, y cyntaf mewn adeilad fach sydd
bellach yn rhan o’r Carpenters, a’r llall ym mharlwr
Gurrey House (Siop Bapur Morgan a’r Swyddfa Bost); arferai’r
bobl lleol ffurfio rhes yn y fynedfa cyn croesi’r trothwy
a chyflawni eu busnes ariannol.
Yn y ganrif ddiwethaf cynhaliwyd cyfres i ffeiri trwy gydol y
flwyddyn, gyda’r dyddiadau’n cael eu cyhoeddi mewn
dyddiaduron amaethyddol.
Siop y Crydd
Roedd yna ddau grydd yn y pentref ar ddechrau’r ugeinfed
ganrif (un siop nawr yn rhan o’r Carpenters, a siop arall
yn Leicester House). Bu farw’r crydd diwethaf, Dennis Edwards,
yn Ebrill 2005. Gwr addfwyn a diwylliedig, yn llawn barddoniaeth
a chanu ydoedd. Soniodd wrth blant yr ysgol am y troeon a fu’n
seiclo i fyny i Landdeusant i weithio yno hefyd pan yn ifanc;
roedd o leiaf dwsin o gryddion yn helpu ei dad i gynhyrchu esgidiau
hoelion yng ngweithdy Leicester House i ffermwyr yr ardal. Erbyn
heddiw trwsio oedd y prif waith, ond galwai nifer o hen ffrindiau
heibio’r gweithdy i gael sgwrs a thrafod barddoniaeth â’r
hen grydd a oedd yn barod i gyfarch pawb. Mae na ddarluniau ohonno
fel plentyn ac yn ei weithdy ar y dudlan Lluniau
Hanesyddol.
Ei dad ydoedd David Tom, yr hynnaf o bymtheg
o blant; ei dad oedd cipar ar ystâd Dolau Cothi; ei fam,
Margaret, oedd merch David Lloyd, gof ym Manordeilo. Dysgodd David
Tom sgiliau’r crydd yyg Nghastell Newydd Emlyn. Yn 1902
ymunodd â Rhys Thomas a oedd wedi adeiladu Ty Caerlyr yn
Llangadog. Roedd yr uchafedau’n cael eu gwneud lan llofft,
yna’n cael eu taflu lawr llawr lle’r oeddent yn cael
eu gwnïo â llaw. Bloneg mochyn ar Cip (y lledr caletaf)
oedd yn cadw’r traed yn sych. Roedd yn rhaid i’r crydd
ddefnyddio maneg ledr ar y llaw chwith gan fod yr edau mor gryf
a châs ar ei groen. Roedd y pedolau i fynd ar waelod yr
esgidiau’n dod o’r ddau of yn Llangadog, William Meredith
a Johnny Lewis. Fe annwyd Dennis ym 1920 yng Ngwestfa, Manordeilo
ac yn ystod yr un flwyddyn death ei dad yn berchen ar y busnes.
Arferai’r mab wario oriau yn y gweithdy yn gwylio’r
gweithwyr wrth eu gwaith, a honnai ei fod wedi dysgu darllen ‘Rhodd
Mam’ wrth fainc y crydd.
Pan oedd yn bedair ar ddeg oed roedd yn barod
i adael ysgol a dechrau prentisiaeth o bum mlynedd gyda’i
dad. Ei dasg cyntaf oedd tynnu esgid ar wahân. Dywedodd
fel iddo wneud hynny, a’i dad wedi mynd i weld cwsmer yn
y siop. Erbyn iddo ddod yn ei ôl roedd yr esgid i gyd yn
rhydd. “Doedd gen id dim syniad shwd i roi pethau nôl
yn eu lle.” Ond roedd ei dad yn athro gwych gyda digon o
amynedd. Ar y pryd yr oedd pedwr gweithiwr arall yn gweithio yno.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd ei alw i’r
Awyrlu. Bu’n ymladd yn y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica
ac Ewrop. Gwnaeth ffrindiau â dyn a oedd yn gwisgo ffenestri
siopau esgidiau, ac arferant dreulio’u hamser rhydd yn ymweld
â siop y crydd unrhyw ardal lle’r oeddent yn digwydd
cael eu gyrru. Mae’n cofio’r Eidalwyr yn arbennig
a pha mor dda oedd eu sgiliau, a’r lledr medal oedd i’w
gael yno.
Wedi dychwelyd i Langadog ym 1946 roedd y gweithlu
i lawr i dri, a chyn hir dim on def a’i dad oedd yn rhedeg
y busnes. Daeth esgidiau glaw yn ffasiynnol, gan eu bod yn cadw’r
traed a’r coesau’n sych, yn ysgafn ac yn rhwydd eu
gwisgo. Ym 1950 Mr Edwards oedd yn rhedeg y busnes a’i dad
yn parhau i weithio hyd ei farwolaeth yn 1962 oed yn 80deg oed.
Parhaodd Mr Edwards ei hun i wasanaethu ei gwsmeriaid bron hyd
ei farwolaeth ei hun. “Y gwaith mwya sy gen i nawr yw rhoi
glud newydd ar trainers sy’n dod yn rhydd yn rhwydd.”
Roedd hefyd yn trwsio bagiau llaw a harnais ceffylau. Nid oedd
yn trwsio cyfrwyau gan fod y sgiliau a’r offer yn wahanol.
Yn yr un modd nid oedd yn trwsio harnais dringo, gan fod eisiau
sgiliau arbennig i wneud gwaith cyfrifol.
(yn gasgledig gan Llinos Thomas a Nicola Wrigley, Blwyddyn 6,
fel rhan o gywaith ysgol, 1998. Am luniau a mwy, ewch at wefan
Ysgol Llangadog ar www.ysgolccc.org.uk/gadog
)
Teilwr ydoedd swydd tad Richard Morgan, perchennog
presennol y Siop Bapur a Swyddfa Bost y pentref, ac mae peth o’i
offer yn parhau gyda’r teulu.
Siop gig yn Rock House.
Golden Lion – Llwyn yr Adar
Siop – Nythfa
Siop – High Street
Tudalen
Genuki Llangadog (yn agored mewn ffenestr newydd)
Addysg
Rydym yn gwybod i bobl yr ardal elwa o gael gwasanaeth athrawon
trwy ysgolion teithiol Griffith Jones yn y ddeunawfed ganrif.
Bu ei waith o ddarparu Beiblau SPCK a sicrhau bod gwerinwyr Cymru
yn llwyddo i’w darllen yn creu un o genhedlau mwyaf llythrennog
yr oes honno yn Ewrop. Bu Madam Bevan, gwraig gernog o Dalacharn,
yn parhau i drefnu darpariaeth yr ysgolion wedi iddo farw yn 1761.
Yn anffodus bu perthynas o’n hardal yn gwrthwynebu manylion
ewyllys Madam Bevan pan fu farw yn 1779 (gadawodd £10,000
I gynnal yr ysgolion) ac felly bu raid diogelu’r swm hyd
nes datrys y manylion. Heb arian ni allai’r ysgolion barhau.
Erbyn 1809 penderfynnwyd y bu’r ewyllys yn deg, a rhoddwyd
yr arian (a oedd erbyn hyn yn £30,000) I’r National
Society ac fe agorwyd nifer o ysgolion eraill.
Yn 1806 fe gofnoda llyfrau festri Llangadog y dylid darparu rhyw
fath o addysg i blant y tlawd yn yr ardal: talwyd £10 i
Mr.David Davies er mwyn iddo addysgu 10 plentyn a ddewiswyd trwy
bleidlais. Ymddengys bod 5 ysgol dydd yn yr ardal yn 1844.
Agorwyd Ysgol Gynradd Llangadog yn 1874 a bellach mae 101 o blant
ar y gofrestr, o Landdeusant, Gwynfe, Myddfai a Bethlehem, yn
ogystal ag o Langadog ei hun.
In 1806 Llangadog vestry books record that some form of education
was provided for children of the poor: £10 was paid to a
Mr.David Davies towards instructing 10 poor children for one year.
The children were chosen by ballot. In 1844 there appears to have
been 5 day schools in the area. Llangadog Primary School was opened
in 1874 and it serves a wide catchment area now; with 101 children
from Llanddeusant, Gwynfe, Bethlehem and Myddfai as well as Llangadog
itself on the register.
Addoldai’r Ardal
Eglwys Sant Cadog (Canol Oesoedd)
Roedd deg capel anghydffurfiol yn yr ardal ar
un adeg, ac mae o leiaf chwech yn parhau fel addoldai.
Gosen (Methodist Calfinaidd) 1740 – wedi I Hywel Harris
bregethu yng ngardd y Llew Coch.
Providence (Annibynnwyr) 1820
Seion (Bedyddwyr) 1798
Sardus, wrth Blaencwm a Lletyrhyddod (dal i sefyll hyd at 1950au)
Bethlehem (Annibynnwyr) 1800
All Saints, Gwynfe (1898-9) gyda’r hen
gapel yn troi yn neuadd eglwys.
Capel Maen (Annibynnwyr) 1852
Jerusalem (Annibynnwyr) 1700?
Diwrnod
Ffair
Rasys Trotio
Mae’n debyg mai yma yn Llangadog y cynhaliwyd y rasys trotio
cyntaf. Arferai’r ffermwyr rasio ar hyd heol y comin ar
eu ffordd adref ar ddiwedd diwrnod ffair. (Ceir mwy o wybodaeth
gan ‘Wales and Border Trotting Association’, Owen
Jones, Tynlôn.) Cynhelir y rasys bob dydd Llun y Pasg ers
1884.
Cerddoriaeth a Chymdeithasu
Ynglhwm â’r capeli oedd llawer o’r cymdeithasu;
parhau a wna eisteddfod y capeli ( Providence, Bethlehem, Capel
Maen a Jerusalem). Dechreuwyd Eisteddfod Gadeiriol Llangadog ym
ac mae’n dal i ddenu cystadleuwyr o bell.
Mae gan y pentref draddodiad cerddorol gref: fy glywch chi hynafwyr
yr ardal yn dwyn i gof W.J.Gravell a’i gôr, “Cadogion
Augmented Philharmonic Society”. Roedd gan ei wraig siop
bach-o-bopeth ar y sgwâr, tra’r oedd yntau’n
arwyddwr (signalman) ar y rheilffordd wrth ei waith, ond yn dysgu
nifer o blant yr ardal i chwarae’r piano neu’r ffidil,
gan roi gwersi llym iawn – cywiro gwallau gyda pensil ar
y cwgn! Roedd yn darparu dosbarthiadau ar y tonic sol-ffa hefyd
a datblygodd y Gymanfa Ganu i fod yn fwy o ddathliad. Mae’n
debyg mai’r brifysgol oedd yn ei gyflogi. Yn ôl pob
sôn roedd yn gallu chwarae pob offeryn cerdd a roid o’i
flaen. Adnewyddwyd y traddodiad pan ymsefydlodd ein ficer presennol,
sef Ficer Michael Cottam, yn yr ardal. Sefydlodd Cantorion Tywi
a Symphonica Tywi o fewn byr amser ac mae’r ddau yn parhau
I ddenu cynulleidfaoedd niferus.
Mab i weinidog Bethlehem ydoedd John Williams
(meddyg Victoria) a roddodd ei lyfrgell i helpu i sefydlu’r
llyfrgell genedlaethol.
Helynt y Becca
Mae sôn am gatiau yn cael eu dymchwel yma ar fwy nag un
achlysur, ac mae lleoliad nifer yn amlwg: un ar y ffordd I’r
comin, un arall ar ôl croesi’r A40 I fyny’r
rhiw; ‘Highgate yw enw bwthyn wrth adael y sgwâr a
theithio ar hyd y Stryd Fawr.
Prin iawn oedd y pellter rhwng y tollbyrth ar
hyd y ffyrdd ‘turnpike’ a bu’r porthmyn a’r
ffermwyr druan yn cael eu dal sawl gwaith wrth deithio’r
trwy’r ardal a chasglu o’r odynau calch yn y mynyddoedd
– ac eto wrth iddynt ddychwelyd.
Mae sôn am gyfarfod Becca yng Nghefncwm yr Orllwyd, sef
Cefn Coed (wrth Cwmsawdde).
Ar yr wythfed o Ragfyr, 1843, cofnodwyd bod ymosodiad arall yn
Waunystradfeiris wedi digwydd: “Hwn oedd y pumed ymosodiad.
Dymchwelwyd y gat a thorrwyd ffenestri’r tolldy a oedd newydd
cael ei ailadeiladu.”
Palwyd glwyd Cwmsawdde ble’r oedd Jo Gât yn gofalu.
Roedd y ty wedi ei adeiladu yn y pant. (Joseph Jenkins - Rhwng
Dau Fyd gan Bethan Jenkins.
Soniodd Thomas Campbell Foster, yr ymchwiliwr,
am gyfarfodydd cyfrinachol ganol nos yn y mynyddoedd o amgylch
Llangadog.
(Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Bro Beca,
San Clêr, a darllenwch The Rebecca Riots, David Williams)