|
Saif Llangadog yng nghanol dyffryn
Tywi hanner ffordd rhwng Llandeilo a Llanymddyfri. Pentref gyda
phoblogaeth o tua mil o bobol, yn sefyll ar ochr gorllewinol Parc
Genedlaethol Bannau Brycheiniog ydyw, efo bryniau a dolydd prydferth
o'i gwmpas gyda golygfeydd syfrdanol yn wynebu tuag at y Mynydd
Du. Y prif fusnes yma ydyw amaethyddiaeth er mae amryw fusnes
bach yma yn cynnwys masnachwr adeiladu a siop bwyd amaethyddol.
Mae'r fro brydferth sydd yn amgylchu y pentref a'i agosrwydd at
Fannau Brycheiniog yn dynnfa i deithwyr. Mae'r pentref yn gweini
yn dda iawn i deithwyr gyda mannau i sefyll, bwyta ac yfed.
Pentref bach yw Capel Gwynfe
tua tair milltir i'r de-orllewin o Langadog gyda'g eglwys brydferth
yn amseru o 1898, a neuadd yr eglwys o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae'r ardal yn bennaf yn cynnwys tir amaethyddol ac mae ei safle
ym mryniau isaf Bannau Brycheiniog yn ei wneud yn le defrydol
fel man cychwyn i gerddwyr a beicwyr. Cafodd ei bleidleisio yn
Bentref y Flwyddyn yn Sir Gaerfyrddin yn 2004. Yn ychwanegol i'r
wefan yma, mae gan Gwynfe gwefan eu hun sef http://www.gwynfe.ik.com
Pentref i'r de o Langadog yw Bethlehem
ar ochr bryn yn edrych dros gwastadedd dilyw y Tywi. Mae swyddfa
bost Bethlehem yn fydenwog am ffrancio cerdiau y Nadolig a mae
miloedd o bobol bob blwyddyn yn danfon eu cerdiau i gael eu stampio
gyda marc post Bethlehem. Tu ol i'r pentref mae Garn Goch, bryn
wedi ei orchuddio a rhedyn sydd yn troi yn goch gogoneddus yn
yr hydref a'r gaeaf ac mae hen safle gaer oes haearn yno.
|
Tywydd
yr Ardal
(yn agored mewn ffenestr newydd)
|

Golygfa o Langadog o ben twr yr Eglwys

Sgwar Pentref Llangadog

Stryd yr Eglwys, Llangadog

Swyddfa Bost, Siop Papurau a Siop y Cigydd, Llangadog

Trigolion Lleol Busneslyd

Cerfiad Barcud a'r Hen Eglwys, Capel Gwynfe

Sgwar y Pentref, Bethlehem

Garn Goch

Yr afon Sawdde

Eira ar yr Eglwys
|