Bois lleol fel 'extras'

Ar Fehefin 22ain fe ffilmiodd cwmni Bae Werdd o Gaerdydd rhan o’i gyfres “The Small Country”, sy’n mynd i gael ei ddarlledu mis Ionwr nesaf ar S4C, yn Y Llew Coch, Llangadog.

Ar gyfer y ffilm oedd rhaid newid enw’r tafarn i’r Wheatsheaf a newid popeth tu mewn i edrych fel tafarn o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf - blawd coed ar y llawr, peints piwtar, canhwyllau a.y.b. Hefyd oedd rhaid cael gwared popeth “modern” am y dydd.

Mwynheuodd bois lleol yr achlysur mas draw fel “extras”. Gweler nhw tu allan “Y Wheatsheaf”.

Rhobert ap Steffan

Llun gan Richard a Win Morgan, Swyddfa’r Post, Llangadog