Hen Eitemau Newyddion
2008
Taith
Rhobert i Batagonia
Rhagor o Wobrau i Swyddfa Bost Llangadog
Cyflwynwyd gwobr “Busnes Adwerthiant y Flwyddyn
mewn Cymuned Annibynnol “ NFRN i Richard a Win Morgan yn
y NEC yn Birmingham ar Hydref 20fed. Gweler
y lluniau.
Mae’r wobr hon, a roddir yn flynyddol gan
Ffederasiwn Cenedlaethol y Gwerthwyr Papurau Newyddion am gefnogaeth
a chyfraniad ymroddedig i’r gymuned leol dros ddegawdau
ac am ddatblygiad parhaus o ffyrdd newydd i weithredu a chynnal
busnes sy’n wir wrth galon ei chymuned.
Yn fwy diweddar, ar y 12fed o Ragfyr, cyflwynwyd
hefyd i Richard a Win eu gwobr a’u plac fel Enillwyr Cymru
am y Fusnes Adwerthiant Wledig Orau - Y Siop / Swyddfa Bost Orau
am 2007. Cyflwynir y wobr hon gan y Cyngor Cefn Gwlad, ynghyd
â’r Farmers Weekly a’r Daily Telegraph. Gosodir
y plac arbennig yma y tu allan i’r Swyddfa Bost yn y dyfodol
agos.
Cyrsiau yn Neuadd Gwynfe
Bydd Ymarferion Ioga yn ail-ddechrau ym mis Ionawr am
gost o £15 am gwrs o ddeg wythnos.
Bydd cwrs Cyfrifiadur o fewn y Gymuned yn parhau
yn y Flwyddyn Newydd gydag Andrew Sharp.
Am wybodaeth ynglyn â rhain gwnewch alwad
ffôn i Ysgrifenyddes Neuadd a Chymdeithas Gymunedol Gwynfe,
sef, June Madeira Cole, ar rif ffôn 01550 - 740602.
Cyrsiau Newydd KITE
Fe ddechreuodd cyrsiau newydd KITE ar Ffotograffiaeth Ddigidol
ar ddyddiau Iau ym mis Tachwedd. Dysgwch sut i ddefnyddio camera
digidol, sut i lawrlwytho eich lluniau i gyfrifiadur, a sut i
brosesu ac i’w golygu nhw. Nid oes angen unrhyw brofiad
blaenorol arnoch - ac nid oes angen i chi fod yn berchen ar gamera
digidol neu gyfrifiadur. Am wybodaeth bellach ac i gofrestru cysylltwch
os gwelwch ch’n dda â Win Morgan yn Swyddfa Bost Llangadog.
Hoffwch chi wau?
Pam na wnewch chi ymuno â'n rhwydwaith gwau a bod yn rhan
o'r Rhaglen Gwirfoddolwyr Hyn ac Wedi Ymddeol. Bydd cyfle i wneud
ffrindiau....Creu eitemau wedi'u gwau i achosion da...Gwau adref
neu ymgynnull mewn grwpiau bach....
Ni fydd yn costio ceiniog ichi! Gallwn ddarparu popeth fydd angen
arnoch.
Os hoffech ymuno â'r Rhwydwaith Gwau neu helpu i'w gefnogi,
cysylltwch â Lynda Hill (Cydlynydd Prosiect RSVP) 01437-768195
neu 07901-551407.
Ystafell Gyfarfod newydd, cegin
a thoiled cyhoeddus yn y pentref ?
Tîm Heddlu eich Cymdogaeth Leol
Bydd Tîm Heddlu eich Cymdogaeth leol yn cynnal
Syrjeri Cymunedol agored cyson yn Swyddfa Bost Llangadog ar y
dydd Mercher 1af a’r 3ydd ym mhob mis rhwng 10.00 o’r
gloch y bore a Chanol Dydd, gan ddechrau ar ddydd Mercher, 1af
o fis Awst. Pwrpas y syrjeri yw i drafod unrhyw faterion neu bryderon
a fydd gennych. Edrychwn ymlaen at eich gweld ac i wrando ar eich
sylwadau ynglyn â’ch cymuned.
Hysbysfwrdd

Mae gan y pentref yn awr Hysbysfwrdd newydd ysblennydd
a leolir ar y Sgwâr ar y wal y tu allan i Westy’r
Castell. Rhywbeth i bawb i dynnu eu llygaid ato ! (Mae’r
allwedd ar gael wrth ofyn amdani yn Nhafarn y Castell.)
Ocsiwn Gwynfor
Evans yn codi £2500
Gwersi cyfrifiadur yn y
Swyddfa Bost.
2007
Sioe Arddwriaethol
Flynyddol Clwb Garddio Llangadog
2006
Y ffotograffydd Ken Day
yn llofnodi copiau o'i lyfr yn ystod y Ffair Calan Gaeaf.
Cliciwch yma i weld darlun
a greuwyd gan blant ysgol lleol o Langadog a'r ardal. Gellir ei
weld yn y Neuadd Gymunedol.
Trigolyn
lleol, Iestyn ap Rhobert wedi ei ymswyddo fel Cynllynydd Gwethiant
a Marchnata i Gwmni Telynau Teifi. (Gweler mewn ffurf JPEG - yn
agored mewn ffenestr newydd, saesneg yn unig).
Dadorchuddiad cofeb
Gwynfor Evans 15 Gorffennaf 2006 - yr hanes a lluniau.
Ar Fehefin 22ain fe
ffilmiodd cwmni Bae Werdd o Gaerdydd rhan o’i gyfres “The
Small Country”, sy’n mynd i gael ei ddarlledu mis
Ionwr nesaf ar S4C, yn Y Llew Coch, Llangadog.
Mae tair cymdeithas
lleol wedi enill gwobrau yng nghystydleaeth 2005 Parc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog.
Darluniau o ymweliad
plant Ysgol Gynradd Llangadog i'r Swyddfa Bost ar 21 Tachwedd
2006.